Gyda thîm cyntaf Penrhyn-coch yn chwarae mewn gêm gwpan, fe fanteisiodd yr ail dîm ar y cyfle i ychwanegu tri chwaraewr profiadol i’w gêm yn Llanrhystud. Gwelwyd Tony Jones yn dychwelyd o anaf i’r ymwelwyr yn ogystal â Mark Gornall a Stuart Rogers – y ddau wedi ymuno o dimau cyntaf Penparcau a Thywyn/Bryncrug, ac felly ddim yn gymwys i chwarae yn y gwpan.

Hanner cyntaf cystadleuol

Gêm weddol gyfartal oedd hi am y 30 munud cyntaf. Daeth y cyfleoedd gorau wrth i ergyd Tony Jones yn gwyro fodfeddi heibio’r postyn i’r ymwelwyr, a’r golwr yn arbed yn dda o ymdrech Lee Jones i’r tîm cartref

Aeth Penrhyn-coch ar y blaen ar ôl 35 munud. Arbedodd golwr Llanrhystud, Nathan Bennett, yr ergyd wreiddiol, ond yr ymosodwr Ryan Jones oedd y cyntaf i ymateb ac fe’i gwobrwywyd gyda gôl hawdd.

Bu bron i Lanrhystud daro nôl yn syth – Andrew Humphreys yn torri mewn o’r asgell dde, ond methodd ei groesiad â ffeindio troed Chris Dawson yn y cwrt.

Ail gôl yn allweddol

Dangosodd Mark Gornall ei brofiad yn gynnar yn yr ail hanner – wrth i’w gyd amddiffynwyr ei chael yn anodd ymdopi â’r haul cryf, daeth Gornall i’r adwy ar sawl achlysur wrth i Lanrhystud bwyso am gôl.

Roedd y gôl nesaf wastad yn mynd i fod yn allweddol a Penrhyn-coch a’i sgoriodd dan amgylchiadau dadleuol. Roddodd pas Rogers gyfle i Tony Jones dorri tu ôl i amddiffyn Llanrhystud – gyda’r amddiffyn yn sicr ei fod yn camsefyll, a’r lluman wedi’i chodi, penderfynodd y dyfarnwr i anwybyddu’r cymorth, ac wrth i Jones anelu’r ergyd cafodd i dynnu i’r llawr gan Andrew Wintle. Llwyddodd Ryan Jones i rwydo o’r smotyn.

Collodd y tîm cartref eu ffordd ar ôl hyn, gyda Phenrhyn-coch yn cael y cyfle arall o gic o’r smotyn ar ôl trosedd arall yn erbyn Jones, ond llwyddodd Nathan Bennett i arbed ergyd wan Tony Jones.

Daeth y drydedd yn y funud olaf, wrth i wrthymosodiad cyflym orffen gyda Rogers yn anelu ergyd i gornel y rhwyd.

Mae Llanrhystud yn aros ar frig y gynghrair ond gyda dwy gêm wrth gefn a dim ond un pwynt o wahaniaeth mae Aberdyfi’n fygythiad gwirioneddol yn yr ail safle.