Mae yna amheuon ynglŷn â dyfodol Gavin Henson gyda Saracens ar ôl i’r clwb gyhoeddi y bydd maswr Sale, Charlie Hodgson, yn ymuno o Sale Sharks y tymor nesaf.

Mae cytundeb y Cymro â’r clwb o Watford yn dod i ben ar ddiwedd y tymor.

Dim ond tair gêm mae Henson wedi chwarae dros y clwb hyd yn hyn, gan gynnwys pum munud yn erbyn Gwyddelod Llundain dros y penwythnos.

Roedd ei gêm gyntaf i’r clwb ar Ŵyl San Steffan yn un digon addawol, o ystyried nad oedd wedi chwarae gêm gystadleuol ers 21 mis.

Ond cafodd ei eilyddio ar ôl 51 munud yn ei ail gêm, cyn cael ei enwi ar y fainc ar gyfer y trydydd.

Roedd Henson wedi dweud cyn arwyddo ei fod o’n awyddus i chwarae yn safle’r maswr ond hyd yn hyn mae’r tîm hyfforddi wedi dewis Owen Farrell yn ei le.

Dywedodd cyfarwyddwr rygbi’r Saracens, Mark McCall, bod arwyddo Charlie Hodgson yn “gam mawr arall ymlaen” i’r clwb. Ond fe allai olygu bod llai fyth o gyfle i Henson wisgo’r crys rhif deg, os yw’n aros am dymor arall.

Bydd angen i Gavin Henson chwarae yn gyson os yw’n gobeithio dychwelyd i garfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd eleni.