Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn wynebu colledion trwm yn etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai, yn ôl arbenigwr ar wleidyddiaeth Cymru o Brifysgol Aberystwyth.

Awgrymodd Cyfarwyddwr Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, Roger Scully, y gallai’r Dems Rhydd golli pob un o’u seddi ar noson wael iawn.

Dywedodd fod cefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol wedi “disgyn drwy’r llawr” ers sefydlu’r glymblaid yn San Steffan.

“Mae’r Dems Rhydd wedi bod yn dda iawn am ddenu cefnogaeth y chwith ‘meddal’,” meddai Roger Scully, “ond y funud yr aethon nhw i glymblaid gyda’r Torïaid fe gollon nhw’r gefnogaeth honno.”

Cefnogaeth yn edwino

Mae’r pôl piniwn YouGov diweddaraf yn dangos fod cefnogaeth i’r Dems Rhydd wedi disgyn i 6% yng Nghymru.

Serch hynny mae cefnogaeth y Ceidwadwyr wedi cynyddu dros y misoedd diwethaf, gan awgrymu bod y Dems Rhydd wedi derbyn pob ergyd ar ran y Blaid Geidwadol.

Mae Roger Scully yn disgwyl y bydd cefnogaeth y Torïaid yn edwino yn y misoedd nesaf, wrth i’r toriadau ariannol ddechrau brathu. Ond fe fydd hynny’n gwthio cefnogaeth y Dems Rhydd hyd yn oed yn is.

Ond yn ôl Roger Scully, mae dwylo’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi eu clymu i bob pwrpas nes 2015 nawr, gan na fydd dewis gan y blaid, yn ei farn ef, ond aros gyda’r glymblaid.

“Ond fe fydden nhw’n edrych yn gwbl hurt petai nhw’n tynnu allan [o’r glymblaid] nawr,” meddai Roger Scully.

Unig opsiwn y Dems Rhydd ydi cadw eu pennau i lawr yn ystod etholiadau’r Cynulliad, a gobeithio y bydd pethau’n well erbyn yr Etholiad Cyffredinol nesaf.

Ymgeiswyr newydd

Ond nid y glymblaid yn San Steffan fydd yw’r unig ddraenen yn ystlys y blaid yng Nghymru, meddai Roger Scully.

Fe fydd ymgeiswyr newydd yn sefyll dros y Dems Rhydd mewn dau o’r chwe sedd sydd gan y blaid yn y Cynulliad.

Bydd Jenny Randerson yn ymddeol o’i sedd yng Nghanol Caerdydd, a bydd Mick Bates yn rhoi’r gorau i’w sedd yn Sir Drefaldwyn.

“Pan mae ymgeisydd yn ymddeol mae’r blaid yn colli’r bleidlais bersonol,” meddai Roger Scully.

Cystadleuaeth

Cyfaddefodd olynydd Mick Bates yn Sir Drefaldwyn, Wyn Williams, nad oedd e’n cymryd yn ganiataol y byddai’n cael yr un gefnogaeth ym mis Mai ag oedd y blaid wedi ei fwynhau yn 2007.

“Fe fydd yna gystadleuaeth yn Sir Drefaldwyn, yn bendant,” meddai wrth Golwg 360.

Ond doedd Wyn Williams ddim yn meddwl y byddai helynt y blaid yn Llundain yn cael cymaint â hynny o effaith ar yr ymgyrch at y Cynulliad.

“Fe fydd pob etholaeth yn frwydr ar ei ben ei hun.”