Mae dyn o dras Eidalaidd wedi tisian bwled mas o’i drwyn ar ôl cael ei saethu yn ei ben.
Aethpwyd a Darco Sangermano, 28, i’r ysbyty yn Naples ar ôl iddo gael ei daro gan fwled yn ystod dathliadau Nos Calan.
Roedd wedi cael ei daro yn ochor ei ben gan fwled .22 calibr wrth i bobol y ddinas ddathlu drwy saethu a thanio tân gwyllt. Daeth y bwled i stop yn ei ffroen dde, heb wneud difrod mawr iddo.
Wrth iddo ddisgwyl i gael ei drîn gan ddoctoriaid fe wnaeth e disian a daeth y bwled allan. Mae disgwyl iddo ddod ato’i hun yn iawn meddai doctoriaid.