Mae barnwr wedi clodfori mam bachgen chweched dosbarth gyfaddefodd iddo daflu diffoddydd tân o adeilad yn ystod protest yn erbyn ffioedd dysgu.
Wrth ddedfrydu Edward Woollard, 18 oed, i ddwy flynedd ac wyth mis yn y carchar dywedodd y Barnwr Geoffrey Rivlin ei fod yn cydnabod “dewrder anhygoel” ei fam.
Roedd ei fam Tania Garwood wedi ei annog i fynd at yr heddlu a chyfaddef mai ef daflodd y diffoddydd tân. Dywedodd ei fam cyn yr achos llys ei fod yn haeddu cael ei gosbi.
Roedd Edward Woollard, o Dibden Purlieu, Hampshire, un o’r protestwyr ymosododd ar adeilad Milibank yn Llundain ar 10 Tachwedd.
Yn ystod y protest taflodd Edward Woollard ddiffoddydd tân metel o’r seithfed llawr, i gyfeiriad cannoedd o bobol oedd wedi ymgasglu oddi tano.
“Rydw i wedi gweld DVD o’r drosedd. Roedd tyrfa fawr o bobol ar y ddaear oddi tanodd,” meddai’r barnwr.
“Disgynnodd y diffoddydd tân o fewn troedfeddi i grŵp o heddweision.
“Rydych chi’n hynod o ffodus na wnaeth eich gweithred chi arwain at farwolaeth neu anaf difrifol i heddwas neu brotestiwr arall.”