Mae cyfarwyddwr cyffredinol y BBC wedi dweud wrth y Pwyllgor Materion Cymreig heddiw mai cyfrifoldeb Llywodraeth San Steffan oedd trafod y toriadau i gyllideb S4C gyda’r sianel.

Roedd gwleidyddion o Gymru yn ogystal â phenaethiaid S4C wedi beirniadu’r ffordd y cafodd y cytundeb rhwng Llywodraeth San Steffan a’r BBC ei wneud heb roi gwybod iddyn nhw.

Dywedodd Mark Thompson na fyddai’r llywodraeth wedi gallu gorfodi’r BBC i ariannu S4C. Roedd y BBC “wedi cytuno o’i wirfodd” i’r cynllun, meddai.

Ychwanegodd bod y BBC eisoes wedi gwrthod cynnig yr Adran Diwylliant eu bod nhw’n ariannu trwyddedau teledu pobol dros 75 oed.

Cyfaddefodd Mark Thompson nad syniad y BBC oedd ariannu S4C ond eu bod nhw’n “ymroddedig ac angerddol” dros ddarlledu drwy’r iaith Gymraeg ac eisiau i S4C gyrraedd mwy o siaradwyr yr iaith.

Fe fydd y BBC yn cymryd rhan o’r baich dros ariannu S4C o 2013 ymlaen. Fe fydd y BBC hefyd yn rhannu’r cyfrifoldeb am strategaeth a chynnwys S4C.

Dywedodd Marl Thompson na ddylai pobol bryderu ynglŷn â sut y bydd S4C yn cael ei ariannu pan fydd y cytundeb hwnnw yn dod i ben ar ôl 2015. Fe fydd cytundeb arall “tebyg” yn cael ei lunio bryd hynny, meddai.

Annibyniaeth

Ychwanegodd Mark Thompson bod “annibyniaeth” S4C yn ganolog i’r cytundeb rhwng Llywodraeth San Steffan a’r BBC.

“Mae’r BBC yn barod i helpu ond mae cydnabod annibyniaeth greadigol a golygyddol S4C yn rhan ganolog o’r cytundeb,” meddai.

Datganoli

Wrth roi tystiolaeth i’r Pwyllgor Materion Cymreig galwodd y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones am adolygiad i’r hyn ddigwyddodd yn S4C.

Ychwanegodd y byddai’n “llesol i bawb” pe bai gan Lywodraeth y Cynulliad rôl wrth archwilio S4C.

Ond pe bai S4C yn cael ei ddatganoli i Gymru fe fyddai angen i Lywodraeth San Steffan ddarparu rhagor o arian ar eu cyfer nhw er mwyn gallu talu amdano, meddai.

Cytundeb dros dro

Bore heddiw datgelodd Awdurdod S4C ac Ymddiriedolaeth y BBC gytundeb newydd dros dro fydd yn parhau hyd nes y bydd y sianel Gymraeg yn mynd dan adain y BBC yn 2013.

Rhan o’r cytundeb yw bod BBC wedi cytuno i ddangos y rhaglenni y maen nhw’n eu cynhyrchu ar gyfer S4C ar wasanaeth iPlayer, a darparu Pobol y Cwm mewn manylder uchel erbyn diwedd 2011.

Mae’r cytundeb hefyd yn cadarnhau y bydd y BBC yn gwario £4.1 miliwn yn llai ar raglenni ar gyfer S4C ym mlwyddyn ariannol 2012/13.