Mae dau ddyn digartref wedi eu cadw yn y ddalfa ar ôl cael eu cyhuddo o lofruddio dyn digartref arall yn Abertawe.
Ymddangosodd Darren Rigdon, 33 a Christopher Hart, 37 oed, o flaen Llys y Goron Abertawe bore heddiw.
Cafodd dyn arall 31 oed, sydd wedi ei gyhuddo o roi cymorth i droseddwr, hefyd ei gadw yn y ddalfa.
Daethpwyd o hyd i gorff David Williams, 26, ger archfarchnad Iceland yn Sgwâr Dewi Sant am 4am ddydd Gwener.
Fe fydd y tri sydd wedi eu cyhuddo yn ymddangos eto o flaen Llys y Goron Abertawe ar 21 Ionawr.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 01792 562732 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555111.