Mae Aelod Seneddol wedi cyfaddef iddo hawlio mwy nag £14,000 o arian y trethdalwr ar gam.

Eric Illsley o Barnsley Central yw’r AS cyntaf sydd dal yn Nhŷ’r Cyffredin sydd wedi ei farnu’r euog am ei ran yn y sgandal costau.

Roedd wedi mynnu ei fod yn ddieuog ac ar fin wynebu Llys y Goron Southwark heddiw, ond newidiodd ei ble ar y funud olaf.

Mae’n euog o dri chyhuddiad o gyfrifyddu ffug yn ymwneud â thair blynedd o hawlio costau ar ei ail gartref yn Llundain.

Ddydd Gwener cafodd y cyn-Aelod Seneddol, David Chaytor, ei garcharu am ei ran yn y sgandal costau.

Dedfrydwyd ef i 18 mis yn y carchar ar ôl iddo hawlio mwy nag £22,000 o arian y trethdalwr ar gam.