Mae dau ddyn wedi eu cyhuddo o lofruddio dyn digartref yn Abertawe.

Bydd y ddau ddyn, 33 a 37 oed, yn ymddangos o flaen llys ynadon y ddinas yn ddiweddarach.

Mae dyn arall 31 oed wedi ei gyhuddo o roi cymorth i droseddwr ac fe fydd yntau yn ymddangos o flaen y llys hefyd.

Daethpwyd o hyd i gorff David Williams, 26, ger archfarchnad Iceland yn Sgwâr Dewi Sant am 4am ddydd Gwener.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 01792 562732 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555111.