Mae dau ddyn o Japan wedi eu cyhuddo o geisio smyglo mwy nag 50 o grwbanod byw i mewn i’r Unol Daleithiau.

Dywedodd yr awdurdodau bod Atsushi Yamagami a Norihide Ushirozako, y ddau o Osaka, wedi eu harestio ddydd Gwener ym Maes Awyr Rhyngwladol Los Angeles.

Cafodd y ddau eu cyhuddo o geisio mewnforio bywyd gwyllt yn anghyfreithlon a throseddu ar y Ddeddf Rhywogaethau Mewn Perygl.

Fe fydd y ddau yn mynd o flaen llys ar 31 Ionawr ac yn wynebu hyd at 21 mlynedd yn y carchar os ydyn nhw’n euog.

Daethpwyd o hyd i’r crwbanod mewn bocsys bwyd parod oedd wedi eu cadw mewn siwtces.

Roedd yr arestiadau yn gysylltiedig gydag ymchwiliad cudd ddechreuodd y llynedd er mwyn atal smyglo crwbanod i mewn i’r Unol Daleithiau.