Mae Telesgop Gofod Hubble wedi tynnu llun o rywbeth hynod anghyffredin – smotyn gwyrdd yn y gofod sydd yr un maint a’n galaeth ni.

Yn ôl Nasa mae’r smotyn anferth disglair yn “rhoi genedigaeth” i sêr newydd, rhai ohonyn nhw ychydig filoedd o flynyddoedd oed yn unig, mewn cornel anghysbell o’r bydysawd ble nad yw sêr fel arfer yn ffurfio.

Daeth athrawes o’i Iseldiroedd o hyd i’r smotyn gwyrdd, a elwir Voorwerp Hanny, ddiwedd 2007.

Rhyddhaodd Nasa y llun newydd gan Hubble ar ddiwedd un o gyfarfodydd y Gymdeithas Seryddol Americanaidd yn Seattle, Washington.

Maen nhw’n credu mai’r gwasgedd y tu mewn i’r smotyn gwyrdd sy’n creu’r sêr.

Ond mae’r “sêr newydd anedig yn unig iawn” ac “ymhell o bob man arall” meddai Bill Keel, seryddwr o Brifysgol Alabama.

Mae’r smotyn yr un maint a’r Llwybr Llaethog, yr alaeth y mae’r Ddaear a Chysawd yr Haul yn trigo ynddi, meddai.
Cred Nasa yw bod y smotyn yn llawn nwy hydrogen sydd wedi ffurfio yn dilyn cyfarfod rhwng dwy alaeth.

Dywedodd y ddynes ddaeth o hyd i’r blob, Hanny van Arkel, oedd yn 24 oed ar y pryd, ei fod yn edrych yn debyg i “froga’n dawnsio yn yr awyr”.