Mae’r BBC wedi cytuno i ddangos rhaglenni S4C ar wasanaeth iPlayer a darparu Pobol y Cwm mewn manylder uchel erbyn diwedd 2011.

Mae’r newidiadau yn rhan o gytundeb newydd rhwng Awdurdod S4C ac Ymddiriedolaeth y BBC fydd yn parhau hyd nes y bydd y sianel Gymraeg yn mynd dan adain y BBC yn 2013.

Mae’r cytundeb hefyd yn cadarnhau y bydd y BBC yn gwario £4.1 miliwn yn llai ar raglenni ar gyfer S4C ym mlwyddyn ariannol 2012/13.

Yn ogystal â hynny fe fydd brand y BBC yn fwy amlwg ar y rhaglenni mae’r gorfforaeth yn eu cynhyrchu ar gyfer y sianel – “fel bod gwylwyr yn gwybod pa raglenni sydd wedi eu hariannu o’r drwydded teledu”.

Mae newidiadau eraill yn y cytundeb newydd yn cynnwys sefydlu Bwrdd Adolygu Newyddion ar y cyd a fydd yn trafod perfformiad a datblygiad strategol rhaglen Newyddion S4C.

2013

Dywedodd Elan Closs Stephens, Ymddiriedolwr y BBC yng Nghymru, eu bod nhw’n parhau i drafod gyda S4C beth fydd y trefniadau yn 2013 pan fydd y newidiadau mwyaf yn dod i rym.

O hynny ymlaen fe fydd £76 miliwn o arian y drwydded deledu’n cael ei dynnu oddi ar y BBC a’i ddefnyddio i dalu am S4C ac fe fydd y BBC yn rhannu’r cyfrifoldeb am strategaeth a chynnwys S4C.

“Fe fydd y cytundeb hwn yn parhau hyd at 2013 pan fydd y trefniadau newydd yn cael eu cyflwyno,” meddai Elan Closs Stephens.

“Mae’r trefniadau newydd yn cael eu trafod gan yr Ymddiriedolaeth, yr Adran Diwylliant ac S4C ar hyn o bryd.”

Ymateb

Dywedodd Rheon Tomos, Is-gadeirydd Awdurdod S4C, ei fod yn croesawu’r cytundeb newydd.

“Mae gwylwyr yn dweud wrthym ni fod darpariaeth rhaglenni o safon uchel yn rhoi S4C wrth galon diwylliant Cymru, ac yn hollbwysig er mwyn cynnal yr iaith,” meddai.

“Mae ein cytundeb â’r BBC yn hanfodol er mwyn cyflawni hynny.”

Ychwanegodd Syr Michael Lyons, Cadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC, bod y “bartneriaeth newydd yn adeiladu ar ein perthynas cryf â S4C ac yn esiampl arall o ymroddiad hir dymor y BBC i ddarlledu iaith Gymraeg”.