Mae model gwrywaidd wedi ei gyhuddo o ladd cyflwynydd teledu enwog o Bortiwgal mewn gwesty yn Efrog Newydd.

Daethpwyd o hyd i Carlos Castro, 65 oed, wedi ei ddisbaddu a’i guro i farwolaeth yng ngwesty InterContinental Efrog Newydd yn Times Square dydd Gwener.

Roedd Carlos Castro a’r model, Renato Seabara, 21 oed, mewn perthynas, ac wedi bod yn aros yn yr un gwesty yn ystod eu hymweliad.

Mae Renato Seabara wedi ei gadw dan glo er dydd Sadwrn. Mae’n cael profion seiciatryddol heddiw.

‘Cenfigen’

Teithiodd Renato Seabara a Carlos Castro i’r Unol Daleithiau fis diwethaf er mwyn mwynhau rhai o sioeau ar Broadway a threulio’r flwyddyn newydd yn Times Square.

Ond erbyn diwedd y daith roedd y ddau wedi cweryla, yn ôl un o’u cyfeillion, Luis Pires.

“Dw i’n meddwl eu bod nhw wedi ffraeo, yn bennaf oherwydd cenfigen,” meddai.

Roedd Renato Seabara yn gystadleuydd ar raglen deledu ym Mhortiwgal y llynedd o’r enw “A Procura Do Sonho” – neu “Ceisio am Freuddwyd” – gyda’r nod o ennill enwogrwydd drwy fodelu.

Nid ef oedd yr enillydd, ond fe lwyddodd i gael cytundeb modeli wedi’r rhaglen.