Mae penodiad dadleuol newydd Morgannwg, Alviro Petersen, wedi dweud fod ganddo gefnogaeth chwaraewyr y clwb wrth iddo ymweld am y tro cyntaf.

Cyflwynwyd y capten newydd i’r wasg heddiw cyn iddo ddychwelyd i Dde Affrica i chwarae dros y Highveld Lions.

Fe fydd yn dychwelyd i Gymru i ddechrau chwarae gyda Morgannwg ym mis Mawrth.

“Rwy’n edrych ymlaen at ymuno gyda Morgannwg ac mae cael bod yn gapten yn mynd i fod yn her ac rwy’n gobeithio y byddai’n llwyddo,” meddai Alviro Petersen.

“Rwy’n edrych ymlaen at ddatblygu ac arwain y chwaraewyr eraill.”

Fe gafodd Alviro Petersen ei benodi’n gapten yn lle Jamie Darlymple ar gyfer tymor 2011.

Gadawodd Jamie Dalrymple, yr hyfforddwr, Matthew Maynrad, a’r llywydd, Peter Walker, o fewn wythnos i’w gilydd am eu bod nhw’n pryderu ynglŷn â chyfeiriad newydd y clwb.

“Roedd Morgannwg wedi penderfynu mai dyma’r amser i newid. Rydw i wedi siarad gyda’r chwaraewyr i gyd ac maen nhw yn fy nghefnogi i,” meddai Alviro Petersen.

“Mae’r chwaraewyr yn awyddus i ddechrau chwarae ac maen nhw’n llawn brwdfrydedd.” Rydw i’n edrych ymlaen at weithio gyda nhw,”