Cafodd llanc 16 oed ei daro a’i ladd gan drên yn ne Cymru heddiw, meddai’r heddlu.

Dywedodd Heddu Trfnidiaeth Prydain bod y gwasanaethau brys wedi dod o hyd i’r llanc, sydd heb ei enwi, ar y rheilffordd ger Ynysboeth yng Nghwm Cynon.

Galwyd Heddlu Trafnidiaeth Prydain i leoliad y ddamwain ar Ffordd Abercynon yn dilyn adroddiadau bod rhywun wedi ei daro gan y trên 8.41am o Gaerdydd ac Aberdâr.

Cafodd yr heddlu wybod am y gwrthdrawiad toc wedi 9.30am. Does yna ddim amgylchiadau amheus, meddai’r heddlu.

“Fe aeth Heddu Trafnidiaeth Prydain a Heddlu De Cymru draw a dod o hyd i gorff llanc, yr ydym ni’n credu sy’n fachgen 16 oed o ardal Abercynon.”

Cyrhaeddodd Ambiwlans Awyr Cymru ond roedd y dyn wedi marw yn y fan a’r lle.

Fe ddylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar 0800405040.