Mae hyfforddwr Sale Sharks, Kingsley Jones, wedi dweud ei fod yn ystyried gadael y clwb ar ddiwedd y tymor.

Mae cyn-gapten Cymru wedi bod gyda’r clwb ers saith blynedd, ac wedi bod yn hyfforddwr y blaenwyr, prif hyfforddwr a chyfarwyddwr rygbi yn ystod ei amser yno.

Mae yna adroddiadau o Ffrainc ei fod yn ystyried ymuno â thîm hyfforddi Toulon.

“Dros y chwech i wyth wythnos nesaf rwy’n mynd i ystyried yr opsiynau sydd ar gael i mi,” meddai Jones wrth raglen Scrum V.

“Mae gen i swydd dda gyda Sale ac rwy’n ddiolchgar am hynny. Ond efallai ei bod hi’n bryd am her newydd.

“Mewn saith blynedd gyda Sale rydw i wedi datblygu o fod yn hyfforddwr y blaenwyr i fod yn brif hyfforddwr ac yna’r cyfarwyddwr rygbi. Efallai ei fod yn amser symud ymlaen.”