Mae teclyn newydd sy’n dileu sŵn dril y deintydd wedi ei ddyfeisio er mwyn lleddfu rywfaint ar ofid cleifion nerfus.
Ffrwyth llafur gwyddonwyr tair prifysgol yn Llundain yw’r ddyfais newydd, sy’n defnyddio system ffiltro sŵn soffistigedig er mwyn cuddio twrw iasol chwyrndroi’r dril.
Bydd cleifion yn gallu cysylltu’r ddyfais i’w teclynnau MP3 neu ffonau symudol.
Bydd y ddyfais yn dileu sŵn y dril ond nid synau dyfnach fel lleisiau’r deintydd a’r staff.
Syniad yr Athro Brian Millar o Brifysgol King’s College yn Llundain oedd y ddyfais yn wreiddiol, ond mae’r tîm erbyn hyn yn cynnwys gwyddonwyr o King’s College, Prifysgol Brunel a Phrifysgol South Bank, Llundain.
Yn ôl Brian Millar, “bydd y ddyfais yn dod a’r dyddiau pan oedd pobol yn ofni sŵn dril y deintydd i ben”.