Mae Bangor wedi ail danio eu tymor gyda buddugoliaeth swmpus yn erbyn Hwlffordd ar Ffordd Farrar.
Fe sgoriodd Bangor chwe gôl ar ôl i’r ymwelwyr golli eu golwr Lee Idzi ar ôl deg munud. Bu rhaid i’r amddiffynnwr Gareth Elliott chwarae yn y gôl pan dorrodd Idzi ei fys.
Daeth y gôl gyntaf gan Chris Jones yn fuan ar ôl i Idzi adael y cae.
Roedd Bangor 5-0 ar y blaen cyn hanner amser gyda dwy gôl gan Les Davies, ac un yr un gan Dave Morley ac Alan Bull.
Fe ychwanegodd Peter Hoy y chweched gôl i dîm Nev Powell wedi wyth munud o’r ail hanner, wrth i Fangor sicrhau’r pwyntiau llawn ar ôl colli dwy gêm yn olynol.
Aberystwyth 0-2 Y Seintiau Newydd
Mae’r Seintiau Newydd 13 pwynt ar ei hol hi i ar ôl buddugoliaeth o ddau i ddim yn erbyn Aberystwyth ar Goedlan y Parc.
Ond mae â nhw dair gêm ychwanegol i’w chwarae ac fe allai tîm Mike Davies gau’r bwlch yn sylweddol os ydyn nhw’n ennill pob un.
Fe sgoriodd Richie Partridge ddwy gôl er mwyn sicrhau’r fuddugoliaeth i’r ymwelwyr. Fe ddaeth y cyntaf o beniad oddi ar groesiad Craig Jones wedi pedair munud o’r ail hanner.
Daeth yr ail wrth i’r Seintiau Newydd wrthymosod yn yr amser ychwanegol ar ôl 90 munud.
Llanelli 3-1 Y Bala
Mae Llanelli wedi ennill eu pedwaredd gêm yn olynol, gyda buddugoliaeth yn erbyn y Bala.
Fe sgoriodd Chris Llewellyn y gôl gyntaf ar ôl saith munud cyn i Ross Jeffries daro ‘nôl dros y Bala chwarter awr yn ddiweddarach.
Ugain munud cyn y chwiban olaf sgoriodd Wyn Thomas i roi Llanelli ‘nôl ar y blaen cyn i Craig Moses ychwanegu trydedd gôl phum munud yn weddill.
Port Talbot 3-0 Y Drenewydd
Mae Port Talbot wedi codi i hanner uchaf tabl Uwch Gynghrair Cymru yn dilyn eu buddugoliaeth yn erbyn y Drenewydd.
Dyma oedd buddugoliaeth gyntaf Port Talbot mewn pum gêm, wrth iddynt geisio sicrhau eu bod nhw’n gorffen ymysg y chwech uchaf yn yr adran cyn i’r gynghrair gael ei rhannu’n ddau ar ddechrau mis Chwefror.
Fe sgoriodd Lloyd Grist wedi 12 munud i roi Port Talbot ar y blaen, ac fe sgoriodd Lee John a Drew Fahiya gôl yr un yn yr wyth munud olaf y gêm i sicrhau’r pwyntiau hollbwysig.
Airbus UK 3-4 Prestatyn
Bydd Prestatyn yn gobeithio gorffen ymysg y chwech uchaf yn Uwch Gynghrair Cymru ar ôl ennill gêm gyffrous ar yr Airfield.
Roedd yr ymwelwyr wedi mynd 3-0 ar y blaen yn ystod yr hanner cyntaf gyda goliau gan Pat O’Neill, Lee Hunt a Michael Parker.
Ond fe frwydrodd Airbus UK yn yr ail hanner gyda goliau gan Eddie Hope ac Ian Sheridan.
Fe sgoriodd Ross Stephens bedwaredd gôl dros Brestatyn wedi 67 munud ond roedd y pwysau ‘nôl arnynt o fewn munud wrth i Andy Moran ymateb dros Airbus.
Serch hynny, llwyddodd Prestatyn i wrthwynebu’r ymosodiad am weddill y gêm er mwyn sicrhau eu hail fuddugoliaeth yn olynol.
Caerfyrddin 0-3 Castell-nedd
Mae rhediad siomedig Caerfyrddin yn parhau ar ôl iddynt golli 3-0 i Gastell-nedd ar Barc Richmond.
Dyw Caerfyrddin heb ennill er diwedd mis Hydref, ac wedi disgyn i’r nawfed safle yn yr adran.
Fe aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi 24 munud diolch i Paul Cochlin, cyn i gyn-ymosodwr Abertawe, Lee Trundle, sgorio dwy gôl yn yr ail hanner.