Mae S4C wedi cyhoeddi na fyddan nhw’n bwrw ymlaen â cais am adolygiad barnwrol i benderfyniad Llywodraeth San Steffan i newid y modd y mae’r sianel yn cael ei hariannu.

Daw’r cyhoeddiad hir ddisgwyliedig heddiw yn dilyn cyfarfod rhwng S4C, Ymddiriedolaeth y BBC a’r Adran Ddiwylliant fis diwethaf.

Mae Golwg 360 yn deall bod y penderfyniad wedi ei wneud ers tro ond bod Awdurdod y Sianel yn aros am gyfle cyfleus i gyhoeddi hynny.

“Dywedodd Arwel Ellis Owen, Prif Weithredwr S4C yng nghyfarfod y Pwyllgor Dethol Cymreig ar 14 Rhagfyr y byddai’r paratoadau ar gyfer Adolygiad Barnwrol yn parhau tan fod y cyfarfodydd rhwng S4C, Ymddiriedolaeth y BBC a’r Adran Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn dechrau o ddifri,” meddai llefarydd.

“Cynhaliwyd y cyntaf o’r cyfarfodydd hynny ar 14 Rhagfyr, ac mae mwy wedi eu trefnu. Oherwydd y datblygiadau hyn, mae’r broses Adolygiad Barnwrol wedi ei dileu.”