Mae’r corff sy’n gyfrifol am sicrhau bod pawb sy’n berchen ar deledu yn talu’r drwydded wedi dweud heddiw na fydd protestwyr yn erbyn tocio cyllideb S4C yn cael unrhyw ffafriaeth arbennig.

Ond awgrymodd llefarydd ar ran y corff na fydden nhw’n anfon cymaint o lythyrau yn rhybuddio protestwyr cyn eu herlid, er mwyn “arbed costau”.

Llywodraeth San Steffan sy’n gosod pris y trwydded teledu ond y BBC sy’n gyfrifol am ei gasglu.

Heddiw cyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg bod 100 person eisoes wedi ymrwymo i wrthod talu eu trwydded teledu yn rhan o’u protest yn erbyn tocio cyllideb S4C.

Ymysg y bobl sydd wedi datgan eu bwriad i wrthod talu eu trwydded teledu mae’r cantorion Dafydd Iwan, Bryn Fôn a Gai Toms, llywydd Plaid Cymru, Jill Evans, a’r academydd Dr Simon Brooks.

“Beth bynnag yw barn bersonol unigolyn, os nad oes gennych chi Drwydded Deledu ac angen un, mae yn erbyn y gyfraith ac rydych chi mewn perygl o gael eich erlyn a chael dirwy o £1,000,” meddai llefarydd wrth Golwg360.

“Rydym ni’n trin pob person sy’n osgoi talu eu trwydded deledu’r un fath.

“Mewn achosion lle mae rhywun wedi datgan eu bwriad i osgoi’r ffi, efallai na fyddwn ni’n anfon cymaint o lythyron yn eu rhybuddio, er mwyn arbed costau i bobol sydd yn talu’r drwydded.”

100 enw

Lansiodd y Gymdeithas ei hymgyrch fis diwethaf, ac, yn ôl y mudiad, o fewn pedwar diwrnod roedd y cant cyntaf wedi ymrwymo.

Penderfynodd Cymdeithas yr Iaith ymgyrchu yn dilyn y cyhoeddiad y bydd cyllideb S4C yn cael ei dorri 25% erbyn 2015 a’r rhan fwyaf o’r cyfrifoldeb dros ariannu’r sianel yn cael ei drosglwyddo i ddwylo’r BBC.

“Fe fydd y bobl sydd yn gwrthod talu’r drwydded teledu yn gwneud hynny hyd nes bod y Llywodraeth yn sicrhau annibyniaeth y sianel a chyllid digonol i redeg y gwasanaeth angenrheidiol i bobl Cymru,” meddai llefarydd ar ran y Gymdeithas.

Dafydd Iwan yn ‘barod am y canlyniadau’

Dywedodd Dafydd Iwan heddiw ei fod yn teimlo bod achos S4C “yn crisialu’r perygl ehangach sy’n wynebu Cymru” ar ôl brwydr hir i sefydlu’r sianel yn y 70au.

“Mae angen dangos pa mor gryf yw’r teimlad dros achub y sianel,” meddai Dafydd Iwan.

“Rydw i wedi dweud fy mod i’n mynd i beidio â thalu nes bod sicrwydd y bydd annibyniaeth a chyllid y sianel ar sylfaen gadarn.

“Os ydi’r arian yn mynd i bot y BBC ac yna’r BBC yn gorfod penderfynu a ydyn nhw am roi blaenoriaeth i’r gwasanaeth Saesneg neu S4C – mae’n amlwg pa un sy’n mynd i ddioddef,” meddai.

“Fel mewn unrhyw brotest arall, mae’n rhaid i rywun fod yn barod am y canlyniadau,” meddai wrth ystyried y posibilrwydd o ddirwy a charchar am beidio â thalu.

Ymateb Cymdeithas yr Iaith

“Mae dyfodol ein hunig sianel teledu Cymraeg yn y fantol,” meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Mae S4C yn wynebu toriadau i’w chyllid o dros 40% mewn termau real; cael ei thraflyncu gan y BBC; a bod grymoedd yn nwylo Gweinidogion San Steffan i gael gwared a hi yn llwyr.

“Mae’r sefyllfa yn argyfyngus; dyna pam rydym yn falch bod cymaint o unigolion wedi dechrau datgan eu bod nhw’n bwriadu peidio â thalu’r drwydded teledu.”