Mae grŵp terfysgol Gwlad y Basg, ETA, wedi cyhoeddi cadoediad parhaol heddiw – gan ddweud ei fod e’n gam tuag at ddod â’u hymgyrch am annibyniaeth i fwcwl.

Ond mewn datganiad ym mhapur newydd Gara, sy’n cefnogi’r ymgyrch, doedd dim sôn y bydd ETA yn ildio eu harfau – un o amodau allweddol llywodraeth Sbaen.

Cyhoeddwyd cadoediad gan ETA ym mis Medi, ond doedd dim sôn bryd hynny pa mor hir y byddai’n parahau.

Yn ôl y datganiad “cadoediad parhaol a chyffredinol” ydyw, ac un y bydd y “gymuned ryngwladol yn gallu ei wirio”.

Stori gyfarwydd

Nid dyma’r tro cyntaf i ETA gyhoeddi “cadoediad parhaol”. Yn 2006 fe wnaed cyhoeddiad tebyg gan ETA, a ddaeth i ben wedi naw mis o drafodaethau aflwyddiannus gyda’r llywodraeth.

Dychwelodd ETA at weithredu arfog yn Rhagfyr 2006 gan osod bom mewn car ym maes awyr Barajas ym Madrid, gan ladd dau.

Ymosodiad angheuol diwethaf ETA yn Sbaen oedd gosod bom mewn car ym Mallorca laddodd dau heddwas yng Ngorffennaf 2009.

Mae’r grŵp yn cael ei ystyried yn fudiad terfysgol gan Sbaen, yr Undeb Ewropeaidd, a’r Unol Daleithiau, ac maen nhw wedi lladd dros 825 o bobl ers y 1960au hwyr.

Er bod sïon ar led ers tro yn Sbaen fod cyhoeddiad mawr gan ETA ar y gorwel, roedd y llywodraeth wedi rhybuddio rhag codi gobeithion.

Pythefnos yn ôl dywedodd y prif weinidog Jose Luis Rodriguez Zapatero mai’r unig ddatganiad yr oedd e yn dymuno’i glywed oedd un yn dweud fod ETA yn dod i ben.