Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyhuddo dyn o ddau drosedd yn ymwneud â threisio dynes 16 mlwydd oed yn Llandrindod ar ddydd Calan.
Ymddangosodd y dyn 29 mlwydd oed o flaen Llys Ynadon Y Trallwng bore ma.
Fe fydd yn cael ei gadw yn y ddalfa hyd nes ei ymddangosiad nesaf yn Llys y Goron Merthyr, ar 17 Ionawr, 2011.
Ymosododd rhywun ar y ferch wrth iddi gerdded o glwb nos The Venue i dŷ ffrind, meddai’r heddlu.
Mae’r heddlu wedi apelio ar unrhyw un a welodd y ferch 16 oed y noson honno i gysylltu â nhw.
Roedd hynny’n cynnwys unrhyw un adawodd Tafarn Middleton, a hefyd Stryd Brookfield a Heol y Gogledd.
Maen nhw’n awyddus i siarad gydag unrhyw un oedd allan yn ystod y nos yn y dref neu a oedd wedi gweld y dioddefwr neu unrhyw un oedd yn ymddwyn mewn modd amheus.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu Dyfed-Powys ar 101 neu Daclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.