Fe fydd capten Abertawe, Garry Monk, allan o’r gêm am dri mis ar ôl anafu ei ben-glin dros y penwythnos.
Bu’n rhaid i Monk adael y cae munudau’n unig ar ôl sgorio gôl agoriadol yr Elyrch yn ystod eu buddugoliaeth 4-0 yn erbyn Colchester ddydd Sadwrn.
Roedd yna bryderon bod y capten wedi dioddef yr un anaf a’i cadwodd allan am y rhan fwyaf o dymor 2006/7.
Ond mae sgan wedi cadarnhau nad oedd yr anaf mor ddifrifol â’r un cynt ac fe fydd yn dychwelyd cyn diwedd y tymor i roi hwb i obeithion Abertawe am ddyrchafiad.
“Dyw pethau ddim mor ddu ag oedden ni wedi ei bryderu,” meddai ffisiotherapydd Abertawe, Kate Rees. “Roedd yna bryder ei fod o wedi anafu’r un ligament ag o’r blaen.”
“Fe fyddai hynny wedi golygu ei fod yn colli gweddill y tymor a hyd at naw mis ar yr ystlys. Ond does dim niwed i’r hen anaf ac fe fydd allan am hyd at dri mis”
“Mae Garry yn gweithio’n galed i ddychwelyd o anaf bob tro ac felly fe allai dychwelyd yn gynt.”
Fe fydd Garry Monk yn cyfarfod gydag arbenigwr heddiw i gael gwybod a fydd angen llawdriniaeth arno.
Anaf Riggott
Mae amddiffynnwr Caerdydd, Chris Riggott hefyd yn wynebu cyfnod ar yr ystlys ar ôl rhwygo llinyn y gar.
Mae Riggott wedi dioddef cyfres o anafiadau dros y blynyddoedd diwethaf sydd wedi amharu ar ei yrfa.
Fe gafodd yr amddiffynnwr ei ryddhau gan Middlesborough ar ddiwedd y tymor diwethaf ac fe ymunodd gyda Chaerdydd ym mis Medi.
Ond roedd yn dioddef o broblemau gyda’i bigwrn ac ni chwaraeodd ei gêm gyntaf tan Ŵyl San Steffan.
Fe fydd yr anaf i Chris Riggott yn ei gadw ar yr ystlys am ddeufis ac fe fydd rhaid i reolwr Caerdydd, Dave Jones, fynd ati o ddifrif i arwyddo amddiffynnwr newydd yn ystod y ffenestr trosglwyddo.