Fe fydd prop Cymru a’r Gleision, Gethin Jenkins, allan o’r gêm am ddeg wythnos ar ôl anafu bys ei droed.
Mae’r newyddion yn ergyd mawr i obeithion Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad fydd yn dechrau yn erbyn Lloegr yn Stadiwm y Mileniwm ar 4 Chwefror.
Fe fydd hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, yn enwi ei garfan ar gyfer y gystadleuaeth ymhen pythefnos ac mae disgwyl i brop y Gweilch, Paul James, lanw’r bwlch.
Fe fydd Gethin Jenkins yn cael llawdriniaeth ar yr anaf ddydd Mercher gan obeithio y bydd hynny’n datrys y broblem sydd wedi trwblu’r Cymro o’r blaen.
Mae’n annhebygol iawn y bydd Gethin Jenkins yn gallu chwarae unrhyw ran yn ymgyrch Cymru, a fydd yn dod i ben ar 19 Mawrth yn y Stade de France.
Mae Warren Gatland eisoes wedi colli mewnwr y Gleision, Richie Rees, ôl iddo gael ei wahardd am 12 wythnos.
Cafwyd ef yn euog o gyffwrdd llygad bachwr Northampton, Dylan Hartley.