Mae dyn wedi marw ar ôl gwrthdrawiad â thrên ger Ynysboeth.

Cafodd Heddlu Trafnidiaeth Prydain eu galw i safle’r ddamwain ar Ffordd Abercynon yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi ei daro gan drên oedd yn teithio rhwng Caerdydd ac Aberdâr.

Digwyddodd y gwrthdrawiad tua 8.41am bore ma, ac fe gafodd yr heddlu wybod toc wedi 9.30am. Nid yw marwolaeth y dyn yn cael ei ystyried yn amheus.

Daeth swyddogion Heddlu Trafnidiaeth Prydain a swyddogion Heddlu’r De o hyd i gorff dyn.
Cyrhaeddodd Ambiwlans Awyr Cymru ond roedd y dyn wedi marw yn y fan a’r lle.

Mae swyddogion yn ymchwilio i pam oedd y dyn i fod ar y traciau yn y lle cyntaf.

Fe ddylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar 0800405040.