Mae arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, wedi galw ar y Llywodraeth i ymestyn y dreth ar fonwsau banciau am flwyddyn arall.

Dywedodd Ed Miliband ei fod yn “annheg” y byddai banciau yn talu £1.25 biliwn yn unig eleni o ganlyniad i dreth newydd y Llywodraeth, o’i gymharu â’r £3.5 biliwn oedden nhw wedi ei dalu y llynedd o ganlyniad i’r dreth ar fonwsau.

Ychwanegodd nad oedd hi’n deg bod banciau yn gorfod talu llai o dreth tra bod teuluoedd cyffredin wynebu rhagor o gostau gan gynnwys cynnydd mewn Treth ar Werth.

Byddai ymestyn y dreth ar fonwsau am flwyddyn arall yn darparu arian er mwyn cefnogi twf yn yr economi, meddai.

Daw ei sylwadau, yn ei gynhadledd gyntaf i’r wasg yn 2011, wrth i fanciau baratoi i dalu tua £7 biliwn o fonwsau i’w gweithwyr.

“Y llynedd, cododd treth y Blaid Lafur ar fonwsau tua £3.5 biliwn. Eleni, fe fydd treth y Llywodraeth yn codi £1.25 biliwn yn unig.

“Mae’n annheg a dyma’r penderfyniad economaidd anghywir ar adeg pan mae pawb arall yn gorfod talu mwy,” meddai.

“Fe fyddai’n decach, ac yn ragor cyfrifol, ymestyn y dreth ar fonwsau am flwyddyn arall. Fe allen ni ddefnyddio’r arian er mwyn cefnogi’r adfywiad yr economi.”