Mae yna bryderon bod ffyrdd yn Nhreuddyn ger yr Wyddgrug yn suddo.
Fe fydd Cyngor Sir y Fflint yn cyflogi arbenigwr i ymchwilio i’r ffyrdd yn y pentref gwledig, ar ôl i sawl un dynnu sylw at symudiadau anesboniadwy dan draed.
“Roedd y Cynghorydd Elwyn Jones, aelod o Gyngor Tref Shotton, wedi tynnu sylw at y peth sawl mis yn ôl,” meddai’r Cynghorydd Klaus Armstrong-Braun wrth bapur newydd y Daily Post.
“Mewn un man yn y pentref, sydd yn agos iawn at adeilad, mae’r ffyrdd i weld yn suddo i mewn i’r dyffryn oddi tanodd.
“Fe fyddai hynny’n beryglus iawn pe bai’n parhau. Cyflogodd y cyngor arbenigwr ar geoffiseg i ymchwilio i’r mater, ond roeddwn i wedi gobeithio am ymateb cynt.”