Mae achos llys chwe pherson sydd wedi eu cyhuddo o geisio cau un o orsafoedd pŵer mwyaf Prydain wedi chwalu heddiw.

Daw hyn ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod heddwas cudd wedi cynnig rhoi tystiolaeth ar ran y diffynyddion yr oedd yn cadw llygaid arnynt.

Cafodd y chwech eu cyhuddo o gynllwynio i gau gorsaf pŵer Ratcliffe-on-Soar yn Swydd Nottingham yn 2009.

Roedd disgwyl i’r chwech ymddangos o flaen eu gwell heddiw, ond cafodd yr achos yn eu herbyn ei ollwng wedi i’r cyn-swyddog heddlu gysylltu â’r diffynyddion gan ddweud y byddai’n fodlon dadlau eu hachos.

Dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron mai gwybodaeth newydd oedd wedi arwain at ollwng yr achos – ac nid ymddangosiad “y plismon cudd”.

Mewn datganiad, dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron fod “gwybodaeth nad oedd ar gael o’r blaen, ac a oedd yn newid achos yr erlyniad yn sylweddol, wedi dod i’r amlwg ar ddydd Mercher, 5 Ionawr 2011”.

Y cefndir

Cafodd cannoedd o ymgyrchwyr eu harestio pan gynhaliwyd cyrch gan yr heddlu ar Ysgol Iona yn Sneiton, Nottingham, ar Ddydd Llun y Pasg, 13 Ebrill 2009.

Roedd y protestwyr yn bwriadu tresmasu yn yr orsaf bŵer yn Ratcliffe-on-Soar a’i gau e i lawr am wythnos, clywodd y llys yn Nottingham.

Y swyddog cudd

Enw’r swyddog cudd oedd Mark Kennedy, cyn aelod o Heddlu’r Met, a dreuliodd y saith blynedd diwethaf yn cadw llygad ar ymgyrchwyr amgylcheddol heb yn wybod iddynt.

Mae’n debyg ei fod e wedi ymddiswyddo yn ddiweddar ac wedi symud dramor.

Mae rhai ymgyrchwyr yn honni bod rhan Mark Kennedy yn yr ymgyrch wedi mynd tu hwnt i’r hyn oedd yn briodol yn rhinwedd ei swydd, a’i fod e wedi helpu i ariannu’r prosiectau a chwarae rhan flaenllaw wrth gynllunio protestiadau.