Dywedodd Dafydd Iwan wrth Golwg360 heddiw ei fod yn gobeithio y bydd ei benderfyniad ef ac eraill i beidio â thalu’r drwydded teledu yn “sicrhau dyfodol cryf i S4C”.

Cafodd cyn-lywydd Plaid Cymru ei enwi bore ma ymysg 100 o bobol sydd wedi ymrwymo i wrthod talu eu trwyddedi teledu yn rhan o brotest Cymdeithas yr Iaith yn erbyn tocio cyllideb S4C.

Dywedodd Dafydd Iwan heddiw ei fod yn teimlo bod achos S4C “yn crisialu’r perygl ehangach sy’n wynebu Cymru” ar ôl brwydr hir i sefydlu’r sianel yn y 70au.

“Mae angen dangos pa mor gryf yw’r teimlad dros achub y sianel,” meddai Dafydd Iwan.

Lansiodd y Gymdeithas ei hymgyrch fis diwethaf yn dilyn y cyhoeddiad y bydd cyllideb S4C yn cael ei dorri 25% erbyn 2015 a’r rhan fwyaf o’r cyfrifoldeb dros ariannu’r sianel yn cael ei drosglwyddo i ddwylo’r BBC.

‘Sylfaen cadarn’

Ymysg y bobl eraill sydd wedi datgan eu bwriad i wrthod talu eu trwydded teledu mae’r cantorion Bryn Fôn a Gai Toms, llywydd presennol Plaid Cymru, Jill Evans, a’r academydd Dr Simon Brooks.

“Rydw i wedi dweud fy mod i’n mynd i beidio â thalu nes bod sicrwydd y bydd annibyniaeth a chyllid y sianel ar sylfaen gadarn,” meddai Dafydd Iwan.

“Os ydi’r arian yn mynd i bot y BBC ac yna’r BBC yn gorfod penderfynu a ydyn nhw am roi blaenoriaeth i’r gwasanaeth Saesneg neu S4C – mae’n amlwg pa un sy’n mynd i ddioddef,” meddai.

“Fel mewn unrhyw brotest arall, mae’n rhaid i rywun fod yn barod am y canlyniadau,” meddai wrth ystyried y posibilrwydd o ddirwy a charchar am beidio â thalu.