Mae Rheilffordd Eryri yn gobeithio codi £8.6m dros y deg mlynedd nesaf er mwyn uwchraddio gorsafoedd, prynu cerbydau a threnau newydd, ac adeiladu ystorfeydd.
Mae peirianwyr eisoes wedi gwario mwy na £10m dros y 14 mlynedd diwethaf yn adeiladu’r rheilffordd o Gaernarfon i Borthmadog. Fe fydd y daith gyfan yn agor am y tro cyntaf eleni.
Ar hyn o bryd mae’r rheilffordd yn cyrraedd Pont Croesor, milltiroedd yn unig o ganol Porthmadog.
“Y flaenoriaeth ydi ymestyn yr orsaf ym Mhorthmadog fel ein bod lle ar gyfer dau drên yr un pryd,” meddai Andrew Thomas, llefarydd ar ran y rheilffordd, wrth bapur newydd y Daily Post.
“Fe fydd y gwaith yn effeithio ar y rheilffordd felly fyddan ni ddim yn ei gynnal nes y gaeaf nesaf ar y cynharaf, o bosib rhwng mis Ionawr a Mawrth.”
Byddai’r gorsafoedd yng Nghaernarfon a Beddgelert hefyd yn cael eu diweddaru, ac mae disgwyl i’r gwaith gostio tua £2.7. Bydd cerbydau yn costio £1.2m arall a’r ystorfeydd yn costio £1m.