Fe fydd 2011 yn “flwyddyn allweddol” i Brydain wrth i’r toriadau gwario ddechrau brathu a’r economi ddechrau adfer, meddai’r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg heddiw.
Dywedodd y byddai miloedd o bobol yn wynebu “amgylchiadau heriol”, ond y byddai’r gwaith o adfer yr economi yn dechrau o ddifri.
Wrth i’w blaid wynebu her yn isetholiad Oldham East a Saddleworth ddydd Iau, dywedodd Nick Clegg ei fod yn credu bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi gwireddu eu haddewidion ers ymuno â’r llywodraeth.
“I’r wlad yn ei gyfanrwydd, eleni y bydd y toriadau yn dechrau effeithio ar bobol,” meddai wrth siarad ar raglen Today Radio 4.
“Mae hynny’n amlwg yn mynd i fod yn anodd ond rydw i’n credu ar yr un pryd fod arwyddion y bydd yr economi yn dechrau gwella hefyd.
“Fe fydd yn flwyddyn allweddol – ac fe fydd yna amgylchiadau heriol iawn i filoedd o bobol yn y wlad yma.
“Ond rydw i’n gobeithio mai dyma ddechrau adferiad wrth i ni symud ymlaen a thrwsio’r economi.”
Dywedodd Nick Clegg fod arwyddion bod cyflogaeth yn y sector breifat ar gynnydd ac ychwanegodd bod proffwydi economaidd annibynnol yn rhagweld adfywiad cyn bo hir.
Herio
Dywedodd nad oedd yn derbyn yr awgrym bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi torri eu haddewidion ers mynd i lywodraeth.
“Rydw i eisiau herio’r syniad yma nad ydym ni wedi llwyddo i wireddu’r syniadau oedd yn ein maniffesto,” meddai.
“Y gwirionedd yw, wnaethon ni ddim ennill yr etholiad, fe ddaethon ni’n drydydd,” meddai.