Syrthiodd prisiau tai 3.4% yn ystod 2010, gan gynnwys cwymp 1.3% yn ystod mis Rhagfyr, cyhoeddwyd heddiw.

Syrthiodd cost gyfartalog cartref ym Mhrydain i £162,435 wrth i brynwyr gadw draw o’r farchnad, meddai Halifax.

Cyrhaeddodd chwyddiant yn y farchnad dai –1.6%, y lefel isaf ers Tachwedd 2009.

“Wrth edrych ymlaen rydym ni’n disgwyl na fydd prisiau tai yn symud ryw lawer yn 2011,” meddai Martin Ellis, economegydd tai Halifax.

“Fe allai arwyddion cyfredol bod perchnogion tai yn llai parod i werthu gywiro rywfaint ar yr anghydbwysedd presennol.

“Serch hynny, fe allai ansicrwydd ynglŷn â’r economi, trethi uwch a thwf isel mewn enillion wthio prisiau tai i lawr unwaith eto.”

Dywedodd fod prisiau tai yn debygol o syrthio’n gynt mewn ardaloedd fydd yn cael eu heffeithio gan doriadau gwario’r Llywodraeth.

Mae ffigyrau Halifax yn mynd yn groes i rai Nationwide, sy’n awgrymu bod prisiau tai wedi cynyddu 0.4% yn 2010.