Mae ymchwilwyr yn dweud eu bod nhw wedi dod o hyd i Flwch Du awyren chwalodd wrth geisio glanio mewn storm eira yn Iran, gan ladd 77 o bobol.

Roedd y Boeing-727 oedd yn eiddo i gwmni hedfan cenedlaethol Iran yn cario 104 o deithwyr a chriw.

Cysylltodd y peilot â’r twr rheoli cyn y ddamwain er mwyn dweud fod nam technegol ar yr awyren, yn ôl teledu gwladwriaeth Iran.

Chwalodd yr awyren IranAir yn sawl darn, ond dywedodd Mahmoud Mozaffar, pennaeth achub Cymdeithas Cilgant Coch Iran, nad oedd yna unrhyw ffrwydrad na thân.

Dangoswyd ffilm ar deledu Iran oedd yn dangos darn crychlyd o’r awyren yn gorwedd mewn cae, wrth i weithwyr achub a ffermwyr lleol frwydro drwy’r tywyllwch ac eira trwm er mwyn ceisio dod o hyd i oroeswyr.

Dywedodd Gweinidog Trafnidiaeth Iran, Hamid Behbahani, bod 77 wedi marw a 27 wedi eu hanafu, ambell un yn ddifrifol. Roedd dau blentyn ymysg y meirw.

Roedd ambell un o’r teithwyr wedi cerdded allan o’r awyren, meddai Abbas Mosayebi, llefarydd ar ran yr awdurdod hedfan sifil.

Mae sancsiynau’r Unol Daleithiau yn golygu nad ydi Iran yn gallu diweddaru ei hawyrennau 30 mlwydd oed.

Mae’r wlad yn ddibynnol ar awyrennau llai dibynadwy o oes Yr Undeb Sofietaidd.