Fe fydd chwe ystafell llawdriniaeth yn Ysbyty Glan Clwyd yn gorfod cau am 14 mis o fis Mawrth ymlaen er mwyn tynnu asbestos oddi yno.

Fis diwethaf roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dweud y bydd y gwaith yn dechrau’n gynnar yn y Flwyddyn Newydd ac wedi gorffen erbyn y gaeaf nesaf.

Cafodd asbestos ei ddefnyddio wrth adeiladu Ysbyty Glan Clwyd ger y Rhyl, a agorwyd yn ôl yn yr 1980au.

Mae’r Bwrdd Iechyd wedi bod yn gweithio ar y cyd â’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch am lawer o flynyddoedd ar y mater, ac wedi bod yn monitro ansawdd yr aer yn rheolaidd.

“Mae cynlluniau ar waith er mwyn sicrhau y bydd llawdriniaeth brys yn parhau er gwaetha’r aflonyddwch,” meddai llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

“Dylai’r cynlluniau fod yn eu lle erbyn diwedd mis Ionawr. Fe fydd y gwaith yn sicrhau dyfodol yr ysbyty ac iechyd a diogelwch staff a chleifion.”

Fe fydd staff meddygol yn chwarae rhan yn y gwaith cynllunio er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael eu diogelu tra bod y gwaith “pwysig ac angenrheidiol” yn mynd yn ei flaen.