Mae’n debyg y bydd gwrthbleidiau Ynys Môn yn cwrdd heddiw er mwyn penderfynu sut orau i orfodi arweinydd y cyngor, Clive McGregor, o’i swydd.
Roedd Clive McGregor eisoes wedi awgrymu na fyddai’n parhau yn ei swydd ar ôl mis Mai, gan ddweud bod cynghorwyr eraill yn ei danseilio, ond mae’n debyg nad yw hynny’n ddigon buan i rai o’i wrthwynebwyr.
Yn ôl Radio Cymru fe fydd yna gyfarfod heddiw i benderfynu sut i gael gwared ohono’n gynt, ac mae Llywodraeth y Cynulliad yn cytuno mai mater i gynghorwyr Ynys Môn ydyw.
Mae gwrthwynebwyr Clive McGregor yn credu ei fod o wedi gwneud nifer o gamgymeriadau polisi yn ei amser wrth y llyw.
Yn 2009 cafodd y Cyngor ei feirniadu’n hallt gan yr Archwiliwr oherwydd y berthynas wael rhwng rhai cynghorwyr a’i gilydd a’r ffordd yr oedden nhw’n camddefnyddio’u grym yn eu hagwedd at swyddogion.
O ganlyniad, fe gafodd Bwrdd Adfer ei benodi o’r tu allan i geisio goruchwylio’r gwaith o wella’r sefyllfa.