Mae Prifysgol Morgannwg wedi cyhoeddi canolfan ymchwil newydd £4.9m fydd yn datblygu, cynllunio a phrofi gwasanaethau ffonau symudol newydd.

Fe fydd y Ganolfan Arbenigedd mewn Gwasanaethau a Rhaglenni Ffonau Symudol wedi ei leoli yn y brifysgol yn Nhrefforest, Rhondda Cynon Taf.

Dros y pum mlynedd nesaf bydd y prosiect yn cyflogi rheolwr masnachol, yn ogystal â phedwar myfyriwr PhD, ac yn rhoi cefnogaeth i fusnesau sydd eisiau cynllunio, datblygu a phrofi rhaglenni newydd.

Mae’r Athro Khalid Al-Begain, cyfarwyddwyr y ganolfan, yn gobeithio y bydd yn rhoi cyfle i gwmnïau brofi’r rhaglenni cyn eu rhyddhau i’r farchnad fyd-eang.

Mae yna sawl cwmni yng Nghymru eisoes yn datblygu rhagleni ar gyfer ffonau symudol – yr wythnos diwethaf cafodd y gêm Gymraeg gyntaf erioed ar gyfer yr iPhone – Cerrig Peryg – ei gyhoeddi gan gwmni Griffilms o Gaernarfon (dde).

“Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol mewn technoleg ffonau symudol. Mae gan y diwydiant lawer iawn o botensial ar gyfer y dyfodol,” medda’r Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones.

“Mae technoleg cyfathrebu yn un o’r sectorau pwysig sy’n rhan o gynllun y llywodraeth i ddatblygu ein heconomi.”