Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cadarnhau mai nam trydanol oedd yn gyfrifol am dân yng Nghartref Gofal Aston Hall yn Sir y Fflint dros y penwythnos.

Bu’n rhaid gwagio’r cartref gofal ym Mhenarlâg, sy’n gartref i 25 o bobol, ddydd Sadwrn ar ôl i dân gynnau mewn storfa ar lawr cyntaf yr adeilad.

Galwyd y gwasanaethau brys tua 3pm ddydd Sadwrn ac fe anfonwyd cerbydau tân o Lannau Dyfrdwy a Bwcle. Fe lwyddodd swyddogion tân i’w ddiffodd yn gyflym.

Ni chafodd unrhyw un ei anafu ac fe ganiatawyd i drigolion y cartref ddychwelyd yn ddiweddarach.

Dim ond y storfa a’r atig uwchben y cartref gofal gafodd eu difrodi gan y tân.