Mae elusen o Gymru yn ystyried cynnig gwobr ariannol er mwyn annog merched sy’n gaeth i gyffuriau i ddefnyddio mewnblaniadau atal cenhedlu.
Yn ôl Martin Blakebrough, prif weithredwr elusen Kaleidoscope yng Nghasnewydd, y nod yw atal cost tymor hir i gymdeithas yn ogystal â gwneud yn siŵr nad ydi cyffuriau yn niweidio babanod yn gorfforol nac yn feddyliol yn ystod beichiogrwydd.
Dywedodd wrth bapur newydd y Wales on Sunday ei fod o eisiau cynnig £50 i ferched sy’n gaeth i gyffuriau ddefnyddio’r cyfarpar gwrthgenhedlu fel nad ydyn nhw’n gallu cael plant.
Byddai’r cynllun yn lleihau faint o blant sydd mewn gofal, gan arbed arian cyhoeddus, ac yn atal plant rhag cael eu geni ar adeg pan nad yw eu rhieni yn gallu edrych ar eu hol nhw, meddai.
‘Oedi’r broses’
“D’yn ni ddim yn beirniadu neb, yr oll ydan ni’n ei ddweud ydi bod angen anogaeth ar rai pobol er mwyn gwneud lles i’w hunain ac i gymdeithas,” meddai.
“Fydden i byth yn dweud wrth unrhyw ferch nad ydi hi byth yn mynd i fod yn ffit i fagu plant. Y syniad yw oedi’r broses.”
Dywedodd y byddai’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn talu am y cyfarpar gwrthgenhedlu tra bod Kaleidoscope yn talu £50 i bob merch sy’n cymryd rhan.
Ond dywedodd William Graham, Aelod Cynulliad dros Dde Ddwyrain Cymru, fod yna berygl y byddai’r menywod yn gwario’r arian ar gyffuriau.