Mae’r Prif Weinidog wedi dweud heddiw bod rhaid dysgu gwersi yn sgil y diffyg brechlynnau ffliw, a bod Gwledydd Prydain yn wynebu mwy o ffliw na’r arfer am flynyddoedd i ddod.
Mae rhai meddygon teulu wedi gorfod gwrthod brechu pobol fregus yr wythnos yma, wrth i nifer y meirw o ganlyniad i ffliw ers dechrau Hydref gyrraedd 50.
Mae stociau dros ben o’r brechlyn ffliw moch archebwyd y flwyddyn ddiwethaf yn cael ei ddefnyddio er mwyn llenwi’r bylchau – er nad yw’n amddiffyn yn erbyn pob math o ffliw.
Gwadodd David Cameron mai toriadau oedd yn gyfrifol am y problemau, gan fynnu bod y Llywodraeth wedi dilyn cyngor arbenigol ers y dechrau.
“Fe archebodd doctoriaid tua 14 miliwn o’r brechlynnau,” meddai wrth siarad â Radio 5 Live. “Ond oherwydd bod y galw’n uwch na’r arfer mae yna ddiffyg mewn rhai ardaloedd.
“Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n dysgu gwersi o hyn. Un wers ydi ei bod hi’n debygol y bydd rhagor o ffliw i’w gael dros y blynyddoedd nesaf oherwydd ffliw moch a rhywogaethau ffliw eraill.
“Rhaid ystyried y modd ydan ni’n archebu brechlynnau a beth arall sydd angen ei wneud. Does gan hyn ddim byd i’w wneud â thoriadau. Does dim toriadau i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.”