Mae’r Heddlu a Chymdeithas Pêl-droed Lloegr yn ymchwilio i honiadau bod un o chwaraewyr Stevenage wedi ei daro gan un o gefnogwyr y clwb ar ôl eu buddugoliaeth annisgwyl dros Newcastle yn y Cwpan FA ddoe.
Cafodd yr amddiffynnwr Scott Laird ei daro i’r llawr wrth i gefnogwyr ruthro ar y cae yn dilyn y chwiban olaf, wrth i’r clwb o Gynghrair Dau ddathlu buddugoliaeth 3-1 dros y tîm o Uwch Gynghrair Lloegr.
Mae fideo o’r digwyddiad yn dangos Scott Laird yn dathlu ar y cae cyn i gefnogwr gerdded tuag ato a’i daro i’r llawr.
Dywedodd hyfforddwr Stevenage, Graham Westley, bod y digwyddiad wedi difetha’r noson orau yn hanes y clwb.
“Roedd Scott Laird yn dathlu gyda chefnogwyr pan ddaeth rhywun a’i daro i lawr,” meddai Graham Westley.
“Mae’n siomedig bod y prynhawn wedi gorffen yn y fath ffordd. Mae [Scott Laird] wedi ei synnu braidd.”
Dywedodd yr heddlu bod y cefnogwr yn gwisgo sgarff Stevenage.
“Rydym ni’n credu bod un o gefnogwyr Stevenage wedi ymosod ar un o chwaraewyr Stevenage,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Swydd Hertford.