Mae David Cameron wedi beirniadu trefn lywodraethol “aneglur” y byd pêl-droed ryngwladol heddiw.

Dywedodd ei fod wedi ei gamarwain gan sawl un o weithredwyr Fifa, oedd wedi honni y bydden nhw’n pleidleisio o blaid cais Lloegr i gynnal Cwpan y Byd 2018.

Yn y pen draw dim ond dau o’r 22 oedd yn gymwys i bleidleisio gefnogodd Lloegr. Fe aeth y gemau i Rwsia.

“Roedd ein cynnig ni’n un gwych – yn dechnegol ni oedd y gorau o bell ffordd ac roedd ein cyflwyniad ni’n llawn perswâd,” meddai ar Radio 5 Live.

“Roedd sawl un o weithredwyr Fifa wedi ysgwyd fy llaw a dweud ‘paid poeni, r’yn ni ar eich ochor chi’.

“Mae trefn lywodraethol y byd pêl-droed yn eithaf aneglur. Roedd hi’n anffodus colli ac, ie, roedd rhai pobol ddim yn gwbl onest gyda ni.”