Mae de Sudan wedi dechrau pleidleisio heddiw mewn refferendwm wythnos o hyd ar annibyniaeth, sy’n debygol o greu gwlad newydd pum mlynedd ar ôl diwedd rhyfel cartref tanbaid yno.
Mae disgwyl i’r rhan o Sudan, sy’n bennaf Gristnogol, benderfynu torri pob cyswllt â’r gogledd Mwslimaidd, gan hollti gwlad fwyaf Affrica yn ddwy.
Mae arlywydd Sudan, sydd wedi ei gyhuddo o hil-laddiad a throseddau rhyfel yn Darfur, wedi addo y bydd o’n gadael i dde Sudan, fynd.
Er bod y rhan fwyaf o olew Sudan yn y de, mae’r pibellau i’r môr yn rhedeg drwy’r gogledd, sy’n golygu y bydd rhaid i’r ddwy wlad barhau i gydweithio yn y dyfodol.
“Dyma’r eiliad dyngedfennol y mae’r bobol yn ne Sudan wedi bod yn disgwyl amdano,” meddai Arlywydd De Sudan, Salva Kiir, wrth bleidleisio o flaen tyrfa orfoleddus.
Roedd yr actor George Clooney ymysg y rheini oedd yno yn gwylio Salva Kiir yn pleidleisio.
“Rydw i’n siŵr na wnaeth y bobol farw heb eisiau,” meddai Salva Kiir wrth y dyrfa, gan alw i gof y rheini fu farw yn rhyfel cartref 1983-2005.
(Llun: Juba – prifddinas de Sudan)