Bu’n rhaid gwagio cartref gofal ym Mhenarlâg yn Sir y Fflint ddoe ar ôl tân mewn storfa.
Bu’n rhaid arwain 25 o bobol oedd yn byw yng Nghartref Gofal Aston Hall allan o’r adeilad ar ôl i’r tân gynnau ar y llawr cyntaf..
Galwyd y gwasanaethau brys tua 3pm ddydd Sadwrn ac fe anfonwyd cerbydau tân o Lannau Dyfrdwy a Bwcle.
Ni chafodd unrhyw un ei anafu ac fe ganiatawyd i drigolion y cartref ddychwelyd yn ddiweddarach.
Does dim manylion eto am beth achosodd y tân.