Mae China wedi gwneud rhagor o gynnydd wrth ddatblygu jet fydd yn anweledig i radar nag oedd yr Unol Daleithiau wedi ei ragweld, cyfaddefodd yr ysgrifennydd amddiffyn Robert Gates heddiw.

Dywedodd Robert Gates bod cynnydd milwrol diweddar China yn “destun pryder”. Yn ogystal â’r jet maen nhw hefyd yn poeni am daflegryn newydd fyddai’n gallu hedfan 2,000 milltir allan i’r môr.

“Maen amlwg fod ganddyn nhw’r gallu i beryglu rhai o’n harfau ni,” meddai Robert Gates, sydd ar ei ffordd i drafodaethau ag arweinwyr China.

”Mae’n rhaid i ni dalu sylw iddyn nhw, ac ymateb yn briodol â’n rhaglenni ein hunain.”

Roedd yr Unol Daleithiau yn gwybod bod China yn creu jet oedd yn anweledig i radar ond doedden nhw ddim wedi disgwyl y byddai un yn barod mor fuan, meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran China nad ydyn nhw’n bygwth unrhyw un ac mai amddiffyn eu pobol eu hunain yw’r nod wrth ddatblygu arfau milwrol newydd.

Mae’r Pentagon yn canolbwyntio eu hadnoddau ar greu arfau fydd yn gallu gwrthsefyll grym milwrol newydd China.

Mae maint cyllideb filwrol China yn ail yn unig i’r Unol Daleithiau. Y gred yw eu bod nhw’n gwario bron i £100 biliwn bob blwyddyn ar y fyddin a datblygu arfau milwrol.