Mae yna ragor o newyddion drwg i Nick Clegg, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, heddiw wrth i bôl piniwn awgrymu mai Llafur fydd yn ennill is-etholiad Oldham East a Saddleworth.
Yn ôl y pôl piniwn ym mhapur newydd y Sunday Telegraph fe fydd Elwyn Watkins (dde), y gwleidydd o dras Gymreig gollodd o drwch blewyn i Phil Woolas yn etholiad cyffredinol mis Mai, yn dod yn ail.
Mae’r Blaid Lafur ar y blaen â 46 y cant o’r bleidlais, y Dems Rhydd ar 29 y cant, a’r Ceidwadwyr ar 15 y cant. Cafodd 1,500 o bobol eu holi yn rhan o’r arolwg.
Wrth ymweld dydd Sadwrn, galwodd Ed Miliband, arweinydd y Blaid Lafur, ar etholwyr i ddefnyddio eu pleidlais ddydd Iau i fynegi eu barn ar y cynnydd mewn ffioedd dysgu a Threth Ar Werth.
Galwyd yr isetholiad ar ôl i gyn-weinidog mewnfudo Llafur, Phil Woolas, golli ei sedd am ddweud celwydd am Elwyn Watkins yn ystod yr ymgyrch etholiadol.
Collodd Elwyn Watkins o 103 pleidlais ym mis Mai ond os ydi arolwg y Sunday Telegraph yn gywir fe fydd yna fwlch ehangach y tro yma.
Serch hynny bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn hapus os ydyn nhw yn osgoi dod yn drydydd ar ôl i arolwg barn genedlaethol yn ystod yr wythnos ddangos bod eu cefnogaeth wedi syrthio i 7%.