Mae cwmni bysiau yn ymchwilio ar ôl i fachgen o Gwmbran ddweud iddo gael ei ddal rhwng drysau bws ar ei ffordd i’r ysgol.
Roedd Callum Shone, pump oed, ar ei ffordd i Ysgol Gynradd Gatholig Mair yr Angylion fore dydd Gwener gyda’i dad, Chris Gallacher.
“Roeddwn i wedi camu i lawr ac roedd Callum ar fin dod oddi ar y bws pan gaeodd y gyrrwr y drysau a’i wasgu rhyngddyn nhw,” meddai’r tad wrth bapur newydd y South Wales Argus.
Dywedodd Chris Gallacher fod y gyrrwr o gwmni Stagecoach wedi dechrau gyrru oddi yno, â Callum yn gaeth, cyn iddo weiddi arno.
“Dywedodd y gyrrwr, ‘maen ddrwg gen i, welais i mohono fe’. Roedd Callum wedi yspetio ond fe aeth e i’r ysgol.”
Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr cwmni Stagecoach, John Gould, eu bod nhw wedi derbyn cwyn a’u bod nhw’n ymchwilio.
Ychwanegodd ei fod yn ymddiheuro am unrhyw ofid i Callum Shone a’i deulu.