Bydd rhaid i stampiau’r Post Brenhinol gynnwys pen y Frenhines hyd yn oed os ydi’r cwmni yn cael ei breifateiddio, cyhoeddwyd heddiw.
Dywedodd y Llywodraeth eu bod nhw wedi penderfynu ar y newid ar ôl gwrando ar farn aelodau yn Nhŷ’r Cyffredin a chodi’r mater â Phalas Buckingham.
Fe fydd y Mesur Gwasanaethau Post yn cael ei ddiwygio er mwyn rhoi’r pŵer i weinidogion orchymyn bod pen y Frenhines yn gynwysedig ar unrhyw stamp.
“Ar hyn o bryd does yna ddim gofyniad cyfreithiol bod pen y Frenhines yn ymddangos ar unrhyw stamp,” meddai’r Gweinidog Materion y Post, Ed Davey.
“Mae’r Post Brenhinol wedi bod yn gwneud hyn o’u gwirfodd ac maen nhw’n hynod o falch o’u cysylltiad brenhinol.
“Alla’i ddim gweld pam y byddai unrhyw berchennog newydd eisiau newid hynny a difetha traddodiad gwerthfawr a mawreddog.
“Fe fydden i’n synnu pe bai angen i ni ddefnyddio’r pŵer newydd.”