Daethpwyd o hyd i gyrff 15 o bobol, gan gynnwys 14 o ddynion heb eu pennau, y tu allan i ganolfan siopa ar draeth yn Acapulco, Mecsico.
Mae’r ardal sy’n boblogaidd â thwristiaid wedi dioddef yn sgil brwydro ffyrnig rhwng gangiau gwahanol dros y blynyddoedd diweddaraf. Cafodd 27 o bobol eu lladd dros y penwythnos.
Digwyddodd y rhan fwyaf o’r llofruddiaethau nos Wener a bore dydd Sadwrn y tu allan i ardaloedd y twristiaid. Ond cafodd dau heddwas eu saethu’n farw ar briffordd o flaen tyrfa o ymwelwyr ddydd Sadwrn.
Roedd y 14 corff di-ben, yn ogystal â 15fed corff oedd dal mewn un darn, yn cynnwys rhybuddion ysgrifenedig gan gartél cyffuriau.
Roedd y negeseuon wedi eu harwyddo gan “Bobol El Chapo” – cyfeiriad at Joaquin “El Chapo” Guzman, pennaeth cartél cyffuriau Sinaloa.
Yn ôl y negeseuon roedd y cartél wedi lladd y 15 dyn am geisio ymyrryd ar eu tir nhw.
Mae torri pen dioddefwyr wedi mynd yn fwy a mwy cyffredin ymysg smyglwyr cyffuriau Mecsico, ond dyma’r gyflafan fwyaf o’i fath.
Yn 2008 daethpwyd o hyd i 12 corff di-ben y tu allan i brifddinas talaith Yucatan, Merida.
Mae llywodraeth Mecsico wedi beirniadu’r trais yn un o gyrchfannau gwyliau mwyaf y wlad.
“Mae trais erchyll fel hyn yn tanlinellu’r angen i frwydro’n chwyrn yn erbyn trosedd sydd wedi’i drefnu,” meddai datganiad gan y Swyddfa Fewnol.