Mae Charlotte Church wedi ymddiheuro am ddweud pethau cas a “difeddwl” am y Frenhines.

Roedd y gantores wedi awgrymu mewn cyfweliad bod y Frenhines yn hen ddynes fethedig oedd â “dim syniad beth sy’n mynd ymlaen”.

Doedd y Frenhines byth yn ei hadnabod hi er iddyn nhw gwrdd saith gwaith, meddai Charlotte Church.

Mewn datganiad heddiw dywedodd y gantores 24 oed ei bod hi’n “ymddiheuro” os oedd hi wedi tramgwyddo unrhyw un.

“Mae’n flin gen i am y sylwadau ynglŷn â’i Mawrhydi’r Frenhines,” meddai.

“Roedd yn fraint cael cwrdd â hi ac mae gen i lawer iawn o barch tuag ati. Ar ôl gweld y geiriau mewn print sylwais pa mor wirion oeddwn i wedi bod.”

Roedd ei sylwadau “difeddwl” wedi bod yn “ffôl”, meddai.

Ychwanegodd nad oedd hi’n cofio’r sylwadau a bod cylchgrawn Esquire wedi gwneud môr a mynydd ohonyn nhw.

Y sylwadau

“Rydw i wedi cwrdd â hi tua saith gwaith ond dyw hi byth yn fy nghofio i. Wrth fynd yn agos ati rydych chi’n sylweddoli ei bod hi’n hen ddynes heb unrhyw syniad beth sy’n mynd ymlaen o’i chwmpas.

“Rydw i’n teimlo’n flin drosti. Mae’n siŵr nad ydi hi eisiau cael ei gorfodi i fynd i bob sioe frenhinol ddiflas a gwylio dawnswyr hanner noeth a digrifwyr erchyll.”