Mae teulu Joanna Yeates wedi galw am gymorth yr cyhoedd wrth ddod o hyd i lofrudd y ferch o Fryste.
Brynhawn yma rhyddhawyd datganiad gan y teulu yn galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â’r heddlu.
“Rydym ni wedi cysylltiad cyson â’r heddlu, ac yn parhau i roi cefnogaeth a chymorth iddyn nhw,” meddai’r datganiad rhyddhawyd gan Heddlu Avon a Gwlad yr Haf.
“Hoffen ni ailadrodd ein cais am unrhyw wybodaeth sydd â cysylltiad â marwolaeth Jo, hyd yn oed os ydi hi’n ymddangos yn gwbwl fach neu ddi-nod.
“Fe allai darn fach o wybodaeth ddatrys y pos sy’n wynebu’r heddlu ac arwain at adnabod y llofrudd.”
Mae’r heddlu yn dilyn sawl trywydd gwahanol ar ôl mynd yn ôl dros gamau olaf Joanna Yates yn y tair wythnos cyn iddi ddiflannu.
Dydd Gwener siaradodd yr heddlu â dros 200 o bobol allai fod wedi gweld y ddynes 25 oed ar 17 Rhagfyr.
“Unwiath eto hoffwn i ddiolch i’r cyhoedd, am eu hamynedd a’u dealltwriaeth neithiwr, a’u cefnogaeth cyfredol,” meddai ‘r Ditectif Uwch Arolygydd Phil Jones.